Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/19

Gwirwyd y dudalen hon

Nod angen gwaith i foddio llawer o feirniaid ein dyddiau ni yw bod arno ddelw'r pryd a'r lle, ac yn wir y mae ar lawer o'r gweithiau sydd wrth eu bodd gymaint o ddelw heddiw fel na bydd neb yn debyg o'u darllen yfory. Nid dibwys i awdur roi delw ei oes a'i amgylchiadau ar ei waith, ac ni ddichon iddo chwaith beidio â gwneuthur hynny. Yn wir, ni roes neb fwy o ddelw ei gyfnod ar ei waith nag a roddes Dante. Bardd yr Oesau Canol ydoedd, crefydd yr Oesau Canol oedd ei grefydd, ffilosoffi'r ysgolheigion oedd yr eiddo yntau. Ni saif popeth a ddywedir yn gyffredin am y ffilosoffi honno, efallai, yn wyneb ymchwiliadau a syniadau diweddarach nag eiddo beirniaid tra phendant y ganrif ddiwethaf, ond addefer fod ynddi lawer o ryw gywrain ymresymu nad yw, er ei glyfred, yn argyhoeddi'r amheuaeth sydd, er gwell neu er gwaeth, wedi tyfu i mewn i raen meddyliau cyfnod y natur-wybodau manwl. Eto, ceir diwinyddiaeth a ffilosoffi'r ysgolheigion yng ngwaith Dante, yn rhan o'r adail megis, ac er hynny y mae i'r gerdd apêl nad oes i'r ddiwinyddiaeth a'r ffilosoffi noeth mono. Ys gwir na ddihangodd yntau rhag beirniadaeth. Y mae rhai yn bwrw arno am wneuthur Uffern yn lle mor dost, a thaerodd eraill mai diben ei gân oedd dial ar ei wrthwynebwyr drwy eu dodi yn y