ei feddwl ef yn feddwl cyfosodus. Yr oedd ynddo, medd Labitte, "rymus undeb dychymyg ac ysbryd traddodiad, ffrwythlon gyfwrdd. barddoniaeth amseroedd a fu â barddoniaeth yr oesau newyddion."[1] Y mae Mazzini yn mynd ymhellach fyth. "Nid oedd Dante," medd ef, na Chatholig na Gwelff na Gibelin: Cristion ac Italiad ydoedd ef." Pa un bynnag, yr oedd Dante yn cydio dau gyfnod â'i gilydd. Anturus hefyd fyddai wadu gosodiad Mazzini. "Am y syniad oedd ganddo ar hyd ei oes," meddai, "y mae ei leferydd ffilosoffig i'w gael yn y Convito, y gwleidyddol yn y De Monarchia, y llenyddol yn y traethawd De Vulgari Eloquio, y gwleidyddol a'r crefyddol ynghyd yn y Commedia. Peth ar wahân yw'r Vita Nuova. Persawr ieuenctid cynnar Dante yw, y breuddwyd serch a rydd Duw i'w blant breiniol i'w dysgu i beidio byth ag anobeithio am fywyd, nac amau nac anghofio anfarwoldeb yr enaid."[2]
Anodd peidio â chredu gyda Mazzini bod cysylltiad rhwng y Vita Nuova a'r Commedia. Pa wedd bynnag a pha beth bynnag yw'r ddysgeidiaeth, y mae'r farddoniaeth yn clymu'r cwbl yn