Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/27

Gwirwyd y dudalen hon

"gelfyddyd er mwyn celfyddyd," a bydd weith iau'n bechod sôn am ddysgeidiaeth gwaith llenyddol. Er hynny, myn llawer ofyn pa beth yw dysgeidiaeth Dante. Deil ysgrifennydd Americanaidd, C. A. Dinsmore, mai dysgeidiaeth yr Inferno yw bod pechod yn ffaith a'i fod yn dwyn ei benyd arno'i hun lle bynnag y bo, canys cysgodau eu pechodau sy'n cosbi'r colledigion yn uffern. Nid oes yno edifeirwch, canys collwyd dawn y deall, ac nid oes borthor wrth y porth i rwystro dianc oddi yno. Dysgeidiaeth y Purgatorio yw mai drwy gyffes, edifeirwch ac iawn y mae i ddyn ei ryddhau ei hun oddi wrth ei bechod, canys profiad yw'r Purdan, nid lle. Yn y Paradiso y mae'r bardd yn dysgu pa beth yw twf bywyd Cristion, gan ei gyffelybu i esgyn o seren i seren, nes cyrraedd y gwynfyd pennaf, sef gweled Duw. A gwerth y ddysgeidiaeth i'n cyfnod ni, ebr Mr. Dinsmore, yw bod Dante, yn groes i hen ddramadyddion Groeg, yn groes i Shakespeare, yn groes i Tennyson, yn dysgu bod dyn, drwy ei ewyllys rydd, yn feistr ar ei dynged.[1]

Yn ei lythyr at ei gyfaill a'i noddwr, Can Grande, wrth gyflwyno'r Paradiso iddo, dywedodd Dante ei hun pa beth oedd ei amcan. "Y mae

  1. The Teachings of Dante. Charles Allen Dinsmore. 1901.