DEUTHUM i wybod gyntaf am y Don Quijote yn y dyddiau rhamantus hynny—a ddarfu cyn ebrwydded!—pan fyddem ninnau yn ein tro yn chwilio am yr anturiaethau oedd yn ein cyrraedd. Peth a ddôi rywdro, efallai, oedd myned i wledydd pell, ond yr oedd llenyddiaeth yn ein dwyn i wledydd ac i oesau pell, a hyd hynny nid yn gymaint yn faes turio ag yn faes anturio.
Ymhlith llyfrau fy nhaid yr oedd twr o rai a ddaethai o lyfrgell un o'i gyfeillion, ysgwier o Gymro, hen ŵr bonheddig, mi glywais fy mam yn dywedyd, a fyddai'n barod i wylo os dywedai neb wrtho fod rhyw anffawd yn debyg o ddigwydd i'r Gymraeg. Ymhlith y llyfrau hynny yr oedd nifer o rai Ffrangeg, cyfrol neu ddwy o waith yn dwyn y teitl "L'Hermite de la Chausée d'Antin, ou Observations sur les Moeurs et les Usages Parisiens au Commencement du xix siècle"; rhai cyfrolau o waith arall: "Correspondance de Mlle. Suzette-Césarine d'Arly," Paris, 1814; a gramadeg Ysbaeneg, yn Saesneg, gan y Don Felipe Fernandez, y seithfed argraffiad, a brintiwyd yn Llundain yn 1818. Diddorol gwybod bellach beth a fyddai yn llyfrgell ysgwier o Gymro yn