agos i gan mlynedd yn ôl. Tebyg gennyf i'm. taid eu prynu ymhlith llyfrau eraill, o barch i'w hen gyfaill, pan werthid ei eiddo ar ôl ei farwol aeth, canys, er iddo ddysgu darllen a siarad Saesneg yn ddyn canol oed, ni wyddai fy nhaid ddim Ffrangeg nac Ysbaeneg. Ffawd dda i mi oedd gael y llyfrau Ffrangeg a'r gramadeg Ysbaeneg ymhlith yr ychydig o'i lyfrau yntau a ddaeth i'm rhan, er i'r copi o waith Talhaiarn, a gafodd gan yr awdur ei hun, fynd ar goll pan werthid ei eiddo yntau, yng nghwrs amgylchiadau.
Fel y bydd hogyn yn gwneuthur pethau, dysgais innau ddarllen Ysbaeneg oddi wrth ramadeg y Don Felipe, i ryw raddau. Ar dudalennau 157-159 o'r argraffiad hwnnw y mae "Descrip cion de la espantable aventura de los Molinos de Vento," allan o nofel Cervantes, "Don Quijote." Darganfyddiad. Deuthum yn ddiweddarach ar draws cyfieithiad Saesneg Jervis, a chopi arall Ysbaeneg wedi hynny. Ni wn i bellach, pe'm blingid, fel y dywedasai Talhaiarn, nad felly y dysgir pethau, wedi'r cwbl! Bid a fo, felly y deuthum i wybod am un o'r chwedlau gorau yn y byd i gyd, a dyddiau rhyfeddod oedd y dyddiau hynny.
Ni adawodd amgylchiadau i mi ddarllen onid hanes y Don o weithiau lluosog Cervantes, ond