Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/35

Gwirwyd y dudalen hon

nid hawdd amau'r rhai a ŵyr pan ddywedant mai dyna'r pennaf o'i weithiau. Digwyddodd i Cervantes yr un anffawd ag a ddigwyddodd i awdur pob gwaith mawr-daeth yr esbonwyr ar ei draws. Esboniwyd mai diwygiwr cymdeithasol ydoedd ef; ei fod yn pregethu goruchwyliaeth newydd mewn gwleidyddiaeth a chrefydd; ei fod yn pregethu purdeb dan glog donioldeb; bod ganddo neges gudd nad adnabu awdurdodau ei oes a'i wlad; ei fod yn ddiwinydd mawr, a'i fod yn weriniaethwr. Fel y digwydd i esbonwyr yn gyffredin, nid oedd odid neb ond hwy eu hunain yn credu eu hesboniadau. Un peth sydd yn sicr ac yn ddigon yw bod Cervantes yn llenor ac yn gelfydd. Y mae'r rhamant yn ei hegluro'i hun i'w darllenwyr drwodd a thro, ac nid oes ynddi-onid a ddysgo dyn oddi wrthi, fel y dysg oddi wrth fywyd ei hun-neges yn y byd amgen na'r hyn a ddododd yr awdur ei hun mewn geiriau plaen, yn ei ragymadrodd, yng ngenau cyfaill dychmygol a'i tynnodd o'r benbleth yr oedd ef ynddi sut i gael anerchiadau barddonol i'w gosod ar ddechrau'r llyfr, sut i gael dyfyniadau dysgedig i'w dodi yng nghorff y llyfr, ac ar y diwedd res o awduron yr "ymgynghorwyd â hwy." Dyma eiriau'r "cyfaill" ar neges y llyfr: