Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/36

Gwirwyd y dudalen hon

A chan na chynnwys eich gwaith fwy na dinistrio'r awdurdod a'r derbyniad y sydd yn y byd ac ymhlith y cyffredin i'r llyfrau marchogwriaeth, nid rhaid i chwi fenthyca ymadroddion ffilosoffyddion, adnodau o'r Ysgrythur Lân, chwedlau'r beirdd, areithiau'r areithyddion na gwyrthiau'r saint. Perwch hefyd, yn narllen eich historia, fod i'r trist deimlo ar ei galon chwerthin, i'r llawen fwy o lawenydd, i'r syml beidio â blino, i'r call edmygu'r ddyfais, i'r difrif beidio â'i dibrisio, ac na omeddo'r doeth ei chymeradwyo.

Pa beth fwy a fynnai'r esbonwyr am amcan a neges dyn? Cymerer Cervantes ar ei air. Cyflawnodd bob un o'r amcanion uchod, beth bynnag. Nid dibwys, gan ei fod ef yn sôn am "ddinistrio awdurdod a derbyniad y llyfrau marchogwriaeth" yw cofio natur a maint dylanwad y llyfrau hynny yn Ysbaen yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Oherwydd yr hir ymladd â'r Mwriaid, bu'r Marchog Crwydrad fyw'n hwy yn Ysbaen nag yn unman arall yn Ewrop, ac yr oedd ef yn llawer mwy o ddifrif nag y bu yn Ffrainc a Phrydain. Yr oedd ei elynion o dras a chrefydd wahanol iddo; yr oedd swyn rhamant yn ei orchestion, a bendith Dduw arnynt yr un pryd. Yr oedd y Marchog Crwydrad yn fawr ei fri yn Ysbaen yn y bymthegfed ganrif, yn chwilio am orchestion i'w gwneud ac yn herio ac yn ymladd â'r sawl na chydnabyddai fod ei riain ef yn degach