Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/43

Gwirwyd y dudalen hon

anhygoel yn ei feddwl ei hun, er mawr ddi- fyrrwch i bawb arall. Yno hefyd gwneir Sancho yn llywodraethwr ar ynys ddychmygol Barataria- yr oedd ei feistr wedi addo iddo ar y dechrau y caffai swydd urddasol felly wedi iddo yntau orfod ar ei elynion. Y mae barnedigaethau Sancho yn ystod y deng niwrnod y bu yn y swydd honno yn rhyfeddol o ddoeth. Wedi llawer cyfranc, y diwedd yw bod Sanson Carasco, ysgolor o ardal y Don, wedi ymddieithro fel marchog, yn dyfod ac yn herio'r Don i ymladd, yn ei orchfygu, ac yn rhoi arno, yn ôl yr amodau, fyned adref ac ym wrthod am flwyddyn â dwyn arfau, gan obeithio y deuai felly i'w synhwyrau. Ufuddha'r Don yn drist i'r amodau, ond wedi cyrraedd adref, y mae'n clafychu ac yn marw, ond nid cyn gweled ei ffolineb a melltithio'r llyfrau marchogwriaeth yn eu crynswth.

Dyna rediad y chwedl. Galwodd Heine hi "y gogan mwyaf yn y byd ar frwdfrydedd Yr oedd Cervantes yn oganwr heb ei ail. Nid ysgrifennwyd erioed ddim mwy miniog, ond odid, na'i ragymadrodd i'r rhan gyntaf o'r llyfr. Cymer arno ei fod wedi anobeithio cyhoeddi'r gwaith, o ddiffyg anerchiadau gan wŷr enwog i'w rhoi ar y dechrau, dyfyniadau dysgedig, a rhes o awduron ar y diwedd. Dywedodd ei benbleth wrth