gyfaill, fel y crybwyllwyd eisoes. Dyma gyngor y "cyfaill":
Am nodi ar yr ymylau ym mha lyfrau a chan ba awduron y cawsoch yr ymadroddion a'r dywed— iadau a ddodasoch yn yr hanes, nid oes ond dwyn i mewn yn gymwys bethau a wypoch ar eich cof, neu o leiaf bethau na chostio ond ychydig drafferth i chwi ddyfod o hyd iddynt, megis, pan sonioch am ryddid a chaethiwed, dodi: Non bene pro toto libertas venditur auro, ac ar yr ymyl nodi Horas, neu bwy bynnag a'i dywedodd. Os trin y boch am gryfder angau, dodwch yno—
Pallida mors æquo pulsat pede
Pauperum tabernas, regumque turres.
Os am garu gelynion yn ôl gorchymyn Duw, ewch at yr Ysgrythur Lân, lle gellwch ei gael ag ychydig chwilio, a dodi geiriau Duw ei hun: "Ego autem dico vobis diligite inimicos vestros." Os trin y boch am feddyliau drwg, ewch at yr Efengyl: "De corde exeunt cogitationes malæ." Os am anwadalwch cyfeillion, dyry Cato ei bennill:
Donec eris felix, multos numerabis amicos,
Tempora si fuerint nubila, solus eris.
A rhwng y darnau Lladin hyn ac eraill tebyg, odid na chyfrifir chwi yn ramadegwr. Dyma ni yn awr yn dyfod at y rhestr o'r awduron Hawdd iawn gwella hynny, canys nid oes i chwi ddim arall i'w wneud ond chwilio am lyfr yn eu cynnwys oll o'r dechrau i'r diwedd (desde la A hasta lo Z).. Pe bai'n gelwydd golau, oherwydd lleied angen a fyddai arnoch eu chwilio, nid yw bwys yn y byd; dichon y bydd rhywun mor syml a chredu ddarfod i chwi eu chwilio i gyd yn eich hanes syml a chywir. A phe na wasanaethai ddim arall, o leiaf fe wasanaetha'r rhes hir o awduron. i roi rhyw awdurdod i'r llyfr. A rhagor, pwy a ymrydd i brofi a ddarfu i chwi eu canlyn pryd na chaffo ddim am hynny?