Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/47

Gwirwyd y dudalen hon

medrus gyferbyniad y naill a'r llall y mae un o ragoriaethau crefft yr awdur. Nid yw Cervantes heb ei feiau a'i anghysonderau, y mae'n ddiau. Mewn un lle, y mae lleidr yn dwyn mul Sancho; ar yr un tudalen, dywedir ei fod ef ar gefn y mul fel arfer; rhyw ugain tudalen ymhellach ymlaen, y mae Sancho yn cwyno ei golled drachefn. Ceir yn y chwedl ragor o bethau tebyg, ond pwy a ddywed nad gogan ar y rhamantau yw hynny? Hyd yn oed os nad e, "aliquando bonus dormitat Homerus," chwedl Sanson Carasco wrth sôn am yr anghysonderau hyn. Ers tri chan mlynedd, difyrrodd "Don Quijote" filoedd o ddarllenwyr ym mhob gwlad, a dysgodd iddynt lawer heblaw hynny. Pe ganesid yr awdur ryw gan mlynedd yn gynt ac iddo ysgrifennu ystori gyfartal ei rhagoriaeth, y mae'n lled debyg y buasai gennym gyfieithiad Cymraeg ohoni, mewn llawysgrif yn rhywle. Wedi dyfod ein rhyddhad a'n dyrchafiad mawr, tua'r adeg y ganed Cervantes, nid oedd angen i ni mwy ddysgu ond un iaith estron, na gwybod dim am glasuron y byd. Yr ydym bellach yn dirywio tipyn ac yn dysgu chwerthin unwaith eto. Efallai y cawn hanes y Don yn Gymraeg cyn bo hir!

(1905).