Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/51

Gwirwyd y dudalen hon

UN wedd ar ramantusaeth y ddeunawfed ganrif fel cyfnod yng ngorllewin Ewrop oedd blino ar ddefod a disgyblaeth y clasuron, neu ar ddefodoldeb diffrwyth dynwaredwyr y clasuron, efallai. Wedi bod beirdd ac eraill yn Lloegr yn sôn am y "barbarous Gothic" cyhyd, daeth tro ar fyd. Dyer, peintiwr a bardd o Gymro a ganai yn Saesneg, oedd un o'r rhai blaenaf i gyfnerthu'r atro neu'r datro. Yn y tiriogaethau Celtig, yr oedd diddordeb yn yr hen amser wedi parhau er yn gynnar, heb i un ffasiwn newydd wanychu rhyw lawer arno-ceir ef yn helaeth yn y chwedlau a'r cerddi Osianaidd yn Iwerddon, a'r oldroad hwn, yn wir, sydd wrth wraidd mudiadau cenedlaethol pob tiriogaeth orchfygedig a lywodr aethir drwy orthrech, ac nid yw rhamantusaeth, hwyrach, ond buddugoliaeth y gorchfygedig, mewn rhyw wedd neu gilydd.

Ymhlith Celtiaid cyfarwydd â'r Saesneg fe gymysgodd yr hen ddiddordeb yn yr amser gynt â'r osgo newydd a ddaeth yn Lloegr, a daeth yr elfen Geltig hithau i mewn i'r peth yn y wlad honno hefyd. Felly y cafodd gwaith Macpherson groeso, ac yr aeth dynion, megis yr aeth Macpherson. ei hun, a rhai o'i feirniaid Seisnig a Chymreig, ar