Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/52

Gwirwyd y dudalen hon

deithiau i chwilio am hen lawysgrifau a hynafiaethau (y mae lle i ofni, yn wir, mai un o'r beiau mwyaf ar Macpherson oedd iddo gael hyd i ddeunydd cymaint gwell, beth bynnag am hŷn, nag a gafodd y lleill!) Aeth yr ysfa yn gymaint o ffasiwn nes bod gwŷr bonheddig yn llogi crefftwyr i adeiladu "adfeilion" yn eu gerddi a'u parciau ac i blannu coed ar ddull arbennig o gwmpas eu tai, er mwyn peri i'r wlad edrych yn wledig a rhamantus. Cymerth dyn fel yr Esgob Percy ddiddordeb mewn hen faledi, gan eu casglu (a thrwsio tipyn arnynt hefyd, o ran hynny). Yr oedd gradd o'r un dylanwad ar ddiddordeb hynafiaethol y Morysiaid, Ieuan Brydydd Hir a Iolo Morganwg, er bod elfennau eraill yn y diddordeb hwnnw hefyd. Yr oedd Iolo yn sicr mai dyled y chwilotwyr oedd copïo pethau'n ffyddlon air am air fel y caent hyd iddynt, ac nid ffugio pethau fel y gwnâi Macpherson—sylw diddorol odiaeth, erbyn hyn. Enghraifft ychydig diweddarach a pheth o ôl y gymhleth Gymreig arni, ond odid, yw "Barzaz Breiz" Villemarqué yn Llydaw.

Aeth dylanwad Macpherson, o leiaf, i'r Cyfandir, gan gymysgu, y mae'n ddiau, â thueddiadau'r cyfnod i'r un cyfeiriad yno, ac arwain i ddatblygiad y cerddi gwerinddull (os ceir llunio term cyfleus am gerddi wedi eu seilio ar hen chwedlau