Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/59

Gwirwyd y dudalen hon

"Fy henaint, llawenhau a all
A'm bedd fydd gwiw yn awr;
I mi fy nghywir gleddyf,
Fy mab, a ddygi di,
A'm merch, cei mewn tangneddyf
Ganu fy marwnad i!"

Tebyg yw "Die Sterbenden Helden," cerdd arall a wnaeth y bardd yn ei ieuenctid dan ddylanwad Saxo Grammaticus. Yn honno y mae tad a mab yn marw ar faes brwydr. Cwyna'r mab ei gipio ymaith oddi wrth ei gariad a'i gerddau, ond dywed y tad wrtho y caiff ei dderbyn i deml Odin, lle rhydd ei gariad eto iddo'r cawg aur yn y wledd. Yr un teimlad sydd yn y cerddi hyn ag a gawn yn "Osian" Macpherson, ac apêl rhamant bore oes dyn sydd ynddynt, y mae'n ddiau, apêl sy'n pylu gyda blynyddoedd o ddidwyllad dyn i raddau mawr, efallai, ond nad annaturiol moni i'r rhai a all, chwedl Lessing, droi oddi wrth heddiw a'i oddef ac yfory a'i farw at ddoe a'i ddiniweidrwydd!

Er mwyn dilyn ei hoffter, astudiodd Uhland Ffrangeg, Saesneg ac Ysbaeneg, a chwiliodd yn ddyfal am hen gerddi cenedlaethol, er mwyn deall pa leferydd a roddid i fywyd gwerin y gwledydd ynddynt. Ceir yr un elfen yn ei gerddi natur. Ysgrifennodd rai dramâu, ond y delyneg a'r