faled oedd ei gyfryngau naturiol ef. Gyda'i ddysg
a'i flynyddoedd, cynhyddodd ei fedr, y mae'n
ddiau, fel y dywed y beirniaid, ond ceir y syndod
a'r peth anghyffwrdd yn ei waith o hyd. Un o'i
faledau gorau yw "Harald." Seiliwyd hi ar
chwedl a geir mewn hen faled Ysgotaidd, a
bwriadwyd iddi fod yn rhan o ddrama nas
gorffennwyd:
Marchogaeth draw ar flaen ei gad
O Harallt bennaeth hy,
A hwylio o'r llu wrth olau'r lloer
Drwy ganol coedwig ddu.
Yn uchel chwyfiant yn y gwynt
Faneri llawer cad,
A chanant lawer rhyfel gerdd
Yn uchel dros y wlad.
Pa ruthro a llithro drwy y llwyn ?
Drwy'r coed ba symud sy?
Pa beth yn ewyn dwfr y nant
A syrth o'r cwmwl fry?
Pa daflu blodau o bob tu ?
Pa ganu o ryfedd rin?
A phwy a naid ar gefnau'r meirch,
A ddawns drwy rengau'r drin?
Pa fannu mwyn, pa finio mêl,
Pa beth sy'n dal pob un ?
Yn taflu'r marchog, dwyn y cledd,
Heb ado hedd na hun?
|