Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/67

Gwirwyd y dudalen hon

â llawer un. Ol bywyd gwastad a gweddol ddibryder sydd ar ei weithiau, ac ymdrechion yr ysbryd yn hytrach na thrafferthion yr ystumog, oedd ei ymdrechion ef—mwy o ofn marw nag o ofn methu byw.

Dechreuodd ganu yn ieuanc—rhwng pedair ar ddeg a phymtheg oed—a phan oedd yn ddwy ar bymtheg, cyhoeddwyd "Poems by Two Brothers," ganddo ef a'i frawd, Charles. Yng Nghaer Grawnt, cafodd gymeradwyaeth ei gyd ysgolheigion fel bardd, ac enillodd wobr am gerdd pan oedd yn ugain oed. Cyn iddo adael Caer Grawnt, cyhoeddwyd ei "Poems, chiefly Lyrical." Derbyniad cymysg a gafodd ei waith, ond yr oedd y rhan fwyaf o'r beirniaid yn ei ganmol, rhai ohonynt yn ei ganmol yn uchel iawn. Cyhoedd odd ei weithiau yn lled gyson ar ôl hynny. Ymhlith y rhai mwyaf gellir nodi "The Palace of Art," "The Princess," "In Memoriam," "Maud," "Idylls of the King," "Enoch Arden," ac amryw fugeilgerddi a chwaraegerddi. Cafodd ei weithiau dderbyniad croesawus, at ei gilydd, ac ystyrid ef yn ddiau yn ben bardd ei oes.

Fel y dywedwyd, cafodd fywyd lled wastad, ac y mae ôl hynny ar ei waith. Dilynodd gyfnod tymhestlog ond disglair, fel y soniwyd eisoes, a pharodd y dylanwadau a wnaeth Shelley a Byron