yn ddiwygwyr tanbaid ei fod yntau'n Rhyddfrydwr cymedrol. Ond ni chwbl ryddhawyd ef tra bu fyw rhag dylanwad awyr glerigol ei gartref, neu yn hytrach, rhag y dylanwadau cymdeithasol oedd yn yr awyr honno. Digon rhyfedd bod Southey a Wordsworth yn Geidwadwyr er eu bod o darddiad gwerinol; bod Tennyson yn Rhyddfrydwr cymedrol, er ei fod o ddosbarth lled geidwadol, a bod yn rhaid cael pendefigion fel Byron a Shelley i fod yn yr eithaf arall. Gellir casglu na ddihangodd Tennyson yn llwyr rhag swyn y syniadau chwildroadol a daniodd ddychymyg Byron a Shelley yn y cyfnod o'i flaen. Aeth am dro i'r Pyrenees tua'r flwyddyn 1831, a chyfarfu yno â'r ffoaduriaid a ruthrodd yn erbyn llywodraeth Ysbaen dan arweiniad Torrigo, ac a laddwyd agos bob un pan laniasant ym Malaga ym mis Tachwedd y flwyddyn honno. Ond os oedd ganddo gydymdeimlad â'r chwil drowyr oddi cartref, yr oedd ganddo gryn barch i awdurdod a threfn yn ei wlad ei hun, ac y mae ôl y wers honno, a ddysgwyd mor dda i Saeson erioed—y wers ar ddyletswydd pobl gyffredin i barchu'r mawrion a bodloni ar eu gweithredoedd—ar ei waith yntau, hyd yn oed er bod ei duedd at fath o ryddfrydiaeth gymedrol yn ddigon eglur hefyd. Mewn cân a ysgrifennodd i gyfeilles, dywedodd: