Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/91

Gwirwyd y dudalen hon

Ne ever will it break ne ever bend,
Wherefore Morddure it rightfully is hight.

Arthur y rhamantau yw hwn, wrth gwrs, ac er na chanodd beirdd y Saeson lawer amdano rhwng Spenser a Tennyson, rhaid cydnabod ei fod ef yn llawer mwy o ffugr yn Saesneg nac yn Gymraeg. Y mae gan Warton gerdd, "The Grave of King Arthur," wedi ei seilio ar yr hen draddodiad am gaffael hyd i gorff Arthur yn Glastonbury, lle'i dygwyd, ebr y bardd yng ngherdd Warton, o faes Camlan, ac y claddwyd ef yn

Joseph's towered fane,
In the fair Vale of Avalon

Yn gymysg â'r rhamant Arthuraidd cawn gan Spenser yr hanes dychmygol am Brutus yn dyfod trosodd i wlad lawn o gewri erchyll, yn eu trechu ac yn rhannu'r wlad rhwng ei feibion:

And Camber did possess the western quart,
Which Severne now from Logris doth depart.

Sonnir am "Caerleill," "Cairleon," "Bladud," Cairbadon," "Cundah" a "Morgan," wrth enw yr hwn y galwyd Morgannwg, a'r fel y bu ddiwedd ar feibion Brutus drwy ymbleidio ac ymladd. Dilynir yr ystori fel yr edrydd Sieffre o Fynwy hi, drwy'r ymdrech â'r Rhufeiniaid hyd