fynnai â chrefydd. Ni theimlodd erioed fod un gofyn arni ond talu'i ffordd, gwneud cyfiawnder, a byw fel anifail a cheisio ei bywoliaeth ei hun. Ni wyddai beth oedd cadw'r Saboth yn ei feddwl, a heb ddim parch buasai'n rhoi'r dillad allan ar y perthi i'w sychu. Dynes hollol baganaidd yn ymyl y Capel oedd! Ac O! fel y byddai ein rhieni ofalus am ein cadw draw oddi wrth ei llwybrau. Fe'i gwelais yn dod i'n tŷ ni ar y Saboth, ac fe ddywedodd: "Fe fûm i yn y dre ddoe," gan feddwl Caernarfon. "A fuoch chwi?" ebe mam. "Do'n wir," ebr hithau, ac yr oedd y moch bach yn . . . . ."Ai e?" ebe fy mam, ac yna dywedodd wrthym ni'r plant am fyned i'r llofft. Gwelodd Mary William nad oedd ei hymddiddan yn gymeradwy, ac ni ddaeth byth i'n tŷ ni wedyn ar y Saboth.
Aeth Mary William i farw, ac O! 'r cofion sydd gennym am yr amgylchiad-dyma fo. Fe ddywedodd fy mam wrth fy nhad ar ei ddychweliad o'i daith yn y Deheudir, "Y mae Mary William yn sâl iawn. A ewch chwi i edrych amdani? Na, nid yw o un diben," ebr yntau. "O ewch," meddai mam. Ac fe aeth; ac acthom ninnau'r plant i edrych drwy'r ffenestr ar yr olygfa, ac ni ellir byth ddileu honno oddi ar ein cof. Wele Mary William yn marw, a'n tad yn sefyll uwch ei phen. Edrychodd arno a phlygodd ei dwylo ymhleth a dywedodd, "O! John Jones; O! John Jones, gŵr Duw," a daliai i wasgu ei dwylo ymhleth. Feallai na bu erioed wahaniaeth mwy rhwng dau deulu nag a