ai'n siriol iawn; ac wedi bwyta fe ddywedai, 'Dewch, blant; gadewch inni ganu tôn," ac fe'i dywedai:
Wel, dyma'r Cyfaill gorau ga'd,
Mae'n ganmil gwell na mam na thad;
Mewn pob caledi ffyddlon yw . . ."
A chyda'i lais melodaidd, treiddgar fe ddechreuai'r gân ei hun. Ac O! fel y byddai fy mam yn mwynhau ac yn porthi ac yn wylo ac yn canmol. Byddai cwmni fy nhad ar adegau fel hyn y peth nesaf i'n meddwl a'n syniad ni am y Nefoedd o ddim a welsom ac a deimlasom erioed. Yr oedd y Nefoedd ynddo ef ei hun wedi dyfod adref o ganol gorfoledd yn un o'r capeli cylchynnol. Yn Rhostryfan : yr Arglwydd sydd Dduw, ewch ar ei ôl ef; os Baal, ewch ar ei ôl yntau.' O! le nad anghofiaf byth mohono! I ba ddiben cloffi, fechgyn; arddelwch eich Duw. Os y diafol ydych yn ei ddewis rhowch Amen am lwyddiant ei deyrnas. Ond os yr Arglwydd sydd Dduw ewch ar ei ôl a rhowch eich Amen dros lwyddiant Ei Deyrnas; dywedwch, 'O Frenin, bydd fyw byth, teyrnasa ar fy nghalon, O Waredwr pechadur, teyrnasa ar f'enaid i.'"
Y mae atgofion am fy nhad y peth mwyaf cysegredig yn fy nghof. Dyn sydyn ei symudiadau; ychydig a ddywedai ar adegau. Treuliai ei amser gan mwyaf yn ei lyfrgell neu yn ei winllan goed a oedd gerllaw'r hen gartref. Fe ellid ei weled yn cerdded i fyny iddi cyn gynted ag y byddai'r ddylet-