swydd deuluaidd drosodd. Fe allai na welid ef am awr neu ddwy; yna fe gerddai'n unionsyth i lawr y cae ar hyd y ffordd heibio i'r hen Gapel ac i mewn drwy'r gegin ac i'r llofft yn brysur heb ddweud gair wrth neb. Yna fe arhosai yn ei lyfrgell hyd amser cinio. Byddai'n rhaid bod hwn yn hollol barod cyn galw ar fy nhad. Weithiau fe fyddai'n paratoi i fynd i'r Deheudir neu oddi cartref; fe fyddai'n brysur a distaw iawn, yr un gair i'w gael ganddo amser bwyd pan ddeuai at y bwrdd; a phawb fel y bedd yn ofni gwneud dim sŵn; a'm mam yn meddu'r cydymdeimlad llwyraf ag ef ac yn gwneud ei gorau iddo ym mhob modd. Weithiau fe eisteddai ac fe ymaflai yn ei bibell, ac fe gymerai arno smocio, ond am ychydig iawn o amser. Fe godai'n sydyn ac i'w lyfrgell, ac ni welem ef mwy nes i'm mam orchymyn ei alw ef i gael te gyda ni. Ac O! fel y byddai'n mwynhau ei gwpanaid te, â'i feddwl wedi cael gollyngdod, wedi cael syniad neu olwg neu ddatguddiad newydd ar ryw wirionedd. Byddai fel bachgen chwareus, ac fe ddywedai, "Wel dowch, Fanny Jones, gadewch inni gael cwpanaid o de da'n awr."
Ymddangosai fel pe bai ei feddwl mawr yn morio yn nyfnderoedd gwirioneddau'r Beibl. Ar adegau fe fyddai'n hawdd deall, pan gadwai'r ddyletswydd deuluaidd, ei fod mewn cymundeb agos â'i Dad, a'i fod yn teimlo bod ei lafur wedi ei goroni â llwyddiant, ei fod wedi dyfod o hyd i rywbeth i'w ddweud dros ei Dduw. Cyn cychwyn i'w daith fe fyddai ei feddyliau am bwysigrwydd ei waith yn gwneud iddo