Tudalen:Atgofion am Dalysarn.djvu/23

Gwirwyd y dudalen hon

weddïodd mor effeithiol ac mor afaelgar nes peri i un o'r gwrandawyr ddweud wrth y nesaf ati, "Ni fydd Fanny Jones ddim marw, gei di weld; ni wrthyd yr Arglwydd weddi John Jones ar ei rhan. A glywaist ti erioed y fath weddi, dywed? O na, mi gaiff fendio."

Dyma oedd ei eiriau: "O Arglwydd, paid â tharo'n drwm, ddaliwn ni ddim; nid ydym ond gwellt ger dy fron; arbed, arbed fywyd y fam a chofia am y plant bach diniwed; cofia mewn trugaredd. Yn ôl Dy arfer, O! trugarha, trugarha wrthym. Ti weli'n trallod a'n cyfyngder. Yr ydym yn syrthio wrth Dy draed, Arglwydd. Ddaliwn ni ddim. Tosturia, adfer yr un sydd yn hoff gennym, Arglwydd." Rhedai ei ddagrau fel afon ar y gadair o'i flaen. Yr oedd pawb yn wylo. A rhyfedd, y diwrnod hwnnw daeth yno ddoctor newydd i'w gweld; defnyddiodd foddion newydd gyda hi. Yn lle tosturio a'i rhoddi i farw fe ddaeth i'r bedroom yn gyflym ei gerdded, ac fe wnaeth sŵn, ac fe gododd y llenni a symud y curtains o gwmpas y gwely, a dywedodd wrth fy mam, Wel, Mrs. Jones, y mae eisiau ichwi godi ar eich eistedd." Fe synnodd fy mam ei glywed yn dweud hyn, a thybiodd mai'r Tylwyth Teg ydoedd, a dywedai ynddi hi ei hun, "Mi glywais lawer o sôn am Dylwyth Teg, ond ni welais un erioed o'r blaen, ond dyma fo." Ac ar hyn dywedodd wrth y Doctor, "Fedra' i ddim, yr wyf i'n marw." "O nag ydych," meddai ef, "'does dim arnoch ond eisiau rhoddi bwyd a diod ichwi. I beth y maent yn eich cadw