Tudalen:Atgofion am Dalysarn.djvu/24

Gwirwyd y dudalen hon

chwi yn y fan hon? A dyma fo'n troi at fy nhad, "Y mae'n rhaid iddi godi o'r gwely yma. Peidiwch â rhoddi gormod o foethau iddi," ac fe wnaeth stŵr gyda'r cadeiriau. Fe synnodd fy mam, ac fe fu ymweliad y doctor hwn yn foddion i symud ei meddwl o'r dyfnder yr aethai iddo. Ac fe droes ar fendio o'r dydd hwnnw allan.

Ac O! 'r fath nurse a gafodd yn fy nhad! Drannoeth aeth fy chwaer a minnau gydag ef i geisio ganddi godi, ond dywedai na allai byth. "Gellwch, gellwch, Fanny fach, gadewch i'r plant eich helpio, a rhoddi rhywbeth amdanoch, ac mi wnawn eich cario i lawr y grisiau, oni wnawn ni, blant?" Ac felly fe'i cafodd i gydsynio i dreio; ac yntau'n rhoddi llymaid iddi ac yn ei chynorthwyo, gan roddi iddi eiriau cysurlon. "Y mae arna' i eisiau ichwi fendio er mwyn y plant yma, a hefyd imi gael mynd i'r daith a addewais i'r Deheudir i bregethu'r Efengyl; fe leiciech, oni wnaech, imi fynd?" Ac edrychai yn ei hwyneb, â'i phen ar ei frest. "O leiciwn, John annwyl," oedd ei hateb gwan a distaw, "gwnaf fy ngorau ichwi gael mynd os caf fendio." "O cei, fy ngeneth annwyl i," meddai yntau. Yr oedd ei ofal amdani mor fawr fel na wnai ddim ond ei gwylio. Gyda help fy chwaer a minnau fe wisgai amdani i fyned allan am dro gydag ef; ac fe'i cymhellai.i godi ei meddwl. Cofiaf iddo ddyfod adref ar fore Llun, ac aeth i weled fy mam ar ei union, ac fe'i gwelai'n wylo. "Beth sydd, Fanny fach?" meddai wrthi. "O, edrych yr oeddwn ar y plant bach yma," ebr