Tudalen:Atgofion am Dalysarn.djvu/25

Gwirwyd y dudalen hon

hithau, "a meddwl y byddent yn colli eu mam ac y byddai un arall uwch eu pennau." "O'n wir, meddai yntau," peidiwch â phoeni, fy ngeneth i; ni fydd yma'r un tra byddwch chwi yma, beth bynnag; fydda' i ddim ar frys, oblegid yr wyf wedi bod mewn pryder mawr ynghylch yr un sydd gennyf, ac yr wyf am ei chadw hyd y gallaf."

Amgylchiad arall sydd wedi ei argraffu ar fy meddwl ydyw marwolaeth fy chwaer Elin, bedair ar ddeg oed. Bu farw o'r consumption. Pan ddeallodd fy nhad nad oedd gobaith gwella iddi, yr oedd fel dyn wedi colli ei synnwyr. Chwiliai am y meddygon gorau. Byddai yn ei chwmni'n wastad, ac yn ei holi ac yn ymgeisio rhywbeth a wnai les iddi. Byddem ar ddyletswydd yn arfer dweud adnod bob unchwech neu saith ohonom, a'r ddwy forwyn a'r gwas; ac fe adroddai'r rhai ieuengaf eu gwers ysgol yno. Cofiaf

y Salm Fawr yn cael ei hadrodd felly unwaith. Ac fe eisteddai Elin bach, fy chwaer, yn welw ei gwedd o flaen fy nhad, a chyda'i llais distaw fe adroddai, "Dyma fy nghysur yn fy nghystudd; canys dy air di a'm bywhaodd i." Hefyd, dro arall, dyma a ddywedodd, "Cyn fy nghystuddio yr oeddwn yn cyfeiliorni, ond yn awr cedwais Dy air Di." Edrychai fy nhad arni â'r dagrau'n dyfod o'i lygaid; yr oedd ei deimladau yn ei orchfygu yn aml wrth edrych arni. Ac nid oedd dim a allai ei gwella. Teimlai hithau ond i 'nhad fod gyda hi fod popeth yn iawn. Cofiaf ef yn dyfod wedi bod yn ei gweled, ac agorodd y drws lle'r oedd fy chwaer a minnau.