symudai. Bu raid gafael ynddo. "O, fy Elin annwyl i." "O, dowch, John Jones," ebr y nyrs, dowch i'r ystafell arall." A bu raid ei arwain yno gan mor fawr oedd ei ofid. Fe'i taflodd ei hun ar y gwely ac fe riddfannodd ac fe ocheneidiodd. Dyna'r lle y gwelais i yr arwydd o hiraeth mwyaf dwfn a welais erioed ar y ddaear yma, yn rhy ddwfn ond i riddfannau ac ochneidiau. Daeth cyfaill i mewn, a gofynnodd fy nhad, "Mr. Jones, a wnewch chwi gadw dyletswydd i ni heddiw; allaf i ddim." "John Jones, o gellwch, gellwch; y rheswm y deuthum i yma heddiw yw fod y gŵr doeth yn dweud mai gwell yw myned i dŷ galar nag i dŷ gwledd." Rhaid ichwi ddarllen," ebe fy nhad, ac ufuddhaodd a threiodd weddïo, ond fe fethodd â dweud ond ychydig eiriau o flaen fy nhad. Teimlai fod yr ystafell yn rhy gysegredig a'r ddesg yn rhy sanctaidd. Griddfannai fy nhad yn ddwfn ac annioddefol yn y llyfrgell yr oeddem ynddi; a'r cwbl yn dwyn ei eiriau a'i anadl oddi arno. Cyfansoddodd fy nhad bregeth ar ei hôl, "A'i dŷ nid edwyn ddim ohono ef mwy." O, fel yr oedd yn ei hoffi; yr oedd ei enaid wedi ymglymu â'i henaid hi; a chredem na ddarfu iddo deimlo mor gryf byth wedi ei cholli.
Cofus gennyf iddo ddweud rhywbeth am "Addysg Chambers i'r bobl ", ac i Hugh Humphreys ddwrdio cyfraith arno. Yr oedd fy mam wedi mynd i gyfarfod ag ef i Gaernarfon, a dywedodd fy modryb, cyfnither fy nhad wrthi, "Wel, yn wir, mae John Jones wedi digio Humphreys, ac y mae am roi