sydd yn eich adnabod eich hun orau, William Roberts. Os fel yna yr ydych yn teimlo, beth a wnawn ni ichwi? A ddymunech chwi i'r brodyr yma groesi eich enw allan o Lyfr yr Eglwys, ac i chwithau gael dechrau o newydd-ni allwn ni eich gwrthod fel pechadur. Beth ydych chwi yn ei ddweud, William Roberts? "
Erbyn hyn yr oedd yn wylo trwy'r lle, a'r hen Hugh Roberts, y Ffridd, â'i ruddiau fel dwy ffos, a'r hen chwiorydd yn ochneidio, a distawrwydd yn teyrnasu drwy'r lle. "Beth wnawn ni, William Roberts? A gawn ni orchymyn croesi'ch enw allan o Lyfr yr Eglwys? "O na, peidiwch wir," ebe yntau dan deimladau dwfn a drylliog. "Pa reswm sydd gennych dros beidio?" Dim ond wylo a dwfn ochneidio a wnai. "A ga' i ofyn ichwi, William Roberts, am un rheswm dros eich goddef yn y Seiat a chwithau yn dweud mai rhagrithiwr ydych? A ydych chwi, tybed, yn caru Iesu Grist?" "O ydwyf, John bach. O ydwyf, yn ei anwylo yn fwy na'r byd i gyd. O, caru Iesu Grist, 'does dim dowt am hynny. Y Fo yw'r ffrind gorau a feddaf i—wrtho Fo y bydda' i yn dweud fy hanes. Trwyddo Fo yr wyf yn disgwyl myned i'r Nefoedd. Yn ei freichiau Ef yr wy'n codi 'mhen o flaen Duw. O, ei garu O! Ydwyf, ydwyf." A daliai i wylo ac ochneidio yr holl amser y dywedai ei brofiad. Safai fy nhad fel colofn, â'i lygaid yn pelydru'r Anweledig, tybiem. Trodd at William Roberts a dywedodd, "Gresyn, William Roberts, fod y diafol yn eich poenydio chwi! Glywch