Tudalen:Atgofion am Dalysarn.djvu/37

Gwirwyd y dudalen hon

o'n meddwl mai fo ydyw'r gorau o ddigon ohonom oll, Richard.” “Fo ydyw, hefyd," ebe Elias Owen. "Wel' di," ebe f'ewyrth Dafydd, "wel' di, mi fydda' i'n barddoni llawer, John, ac yr wy' i'n deall Saesneg hefyd—O, llawer o dalentau bach a wnaiff un fawr-y fi ydi'r mwyaf, wel' di!" Fe chwarddai'r pedwar yn galonnog, ac yna fe'u gadawsom hwy i fyned i'n gwelyau y noson fythgofiadwy honno yn yr hen gartref rhyfedd hwnnw lle cododd tri o bregethwyr a blaenor.

Bûm gyda'm tad dro arall yn Nolwyddelan. Aethom yno gyda dyn o ardal Talysarn a'i ferch. Cysgasom yn y Llyndu y nos gyntaf; ac yna cychwynasom ar droed ar hyd ffordd Capel Curig nes dod at Hafod y Prysg-yna troi i'r coed a'r llwybrau geirwon, caled i'w dringo oherwydd cerrig a dwfr. O! 'r cwyno yr oeddem ni ein dwy! Ond er mwyn ein cymell ymlaen fe ddywedodd Richard Jones, dyna enw'r dyn, "Y mae yna ffyrdd yn Nolwyddelan wedi eu gwneud ag aur." Ac O! fel y prysurem ymlaen er cael eu gweled. Ac wedi cyrraedd top y llwybr nid oedd yn ymddangos ond gwlad ddiderfyn o fynydd-mynydd Moel Siabod â'i godre'n llanw pob man a'i thop yn dyrchafu i'r entrych. Wedi cerdded yn flinedig am beth amser, gofynnodd fy ffrind i'w thad, "Nhad, lle mae'r ffyrdd sydd wedi eu gwneud o aur?" "O," ebe yntau, " rhaid inni fyned at yr hen Gastell yn gyntaf." Yna cerddasom ymlaen yn awyddus nes dyfod at y Castell. "Wel, lle mae nhw'?" ebe hi. "O, ddeudais i