clywed heno, John Jones." A meddai un o'r ddau wrthyf fi, "Ewch at eich tad, a pherswadiwch ef i ddod gyda ni, fy ngeneth fach i." Fe godais ac euthum ato; rhoddais fy llaw ar ei ysgwydd a dywedais, "Nhad, ewch gyda nhw', wir." Troes ataf, "Taw di, 'ngeneth i; wyddost ti fawr beth y mae mentro gyda dy chwaer yn ei olygu; ni all farchogaeth; y mae'n wael." "Wel," ebe finnau, "mi af fi ar gefn y gaseg a chaiff hithau ddod yn eich sgîl chi, 'nhad." "Tybed a elli di? O, gallaf yn iawn." Ac felly fu.
Pan oeddem yn nesáu at Fethesda ein pedwar, y ddau ddyn a ninnau ar ein ceffylau, yr oedd y ffordd yn llawn o bobl. Gofynnais i'r dyn a oedd gyda ni, "Beth sydd yn bod? B'le y mae'r holl bobl yma yn myned?" "O, i wrando ar eich tad, fy ngeneth i; chwi wnaethoch help inni i'w gael i ddod, diolch ichwi, 'ngeneth fach i." Wedi cael te aethom i'r capel. Nid anghofiaf y drafferth a gafwyd i gyrraedd y sêt ar ymyl y gallery gyda'r teulu yr oeddwn yn lletya. O! 'r olygfa nad anghofiaf byth oedd ar y gynulleidfa oddeutu diwedd y bregeth! Dyna orfoledd pan ddywedodd fy nhad, "Dyna fi wedi tynnu'r darlun gorau a fedrwn i ohono Fo o'ch blaen chwi, a dweud wrthych chwi beth wnaeth Efe drosoch chwi. Beth feddyliwch chwi ohono Fo, fy mhobl annwyl i? A ddewisech chwi dreulio Tragwyddoldeb yn Ei gwmni, fechgyn? Y mae'r hen famau yma wedi penderfynu'r cwestiwn ers talwm; onid ydych, hen chwiorydd? A'r hen frodyr gyda