chwi? Yr ydych yn byw yma cyn mynd yno . . . . 'Ein cymdeithas ni yn wir sydd gyda'r Tad a chyda'i Fab Ef Iesu Grist.' Onid ydych yn awyddus i fyned ato i fyw byth? Onid ydych, hen chwiorydd?" Dyma lais gwan, "O, ydan wir, am fynd ato fo cyn gynted ag y gwêl yn dda. O! gogoniant am obaith cael mynd!" Gwaeddai fy nhad, "O cewch, ond ichwi ymddiried yn y Gŵr a brynodd eich bywyd:
Ni chollir neb, er gwaeled fo,
A gredo i'r Gwaredwr.
"O, diolch; bendigedig fo Duw am drefn i faddau," ebe'r bobl. Boddwyd llais fy nhad yng nghanol y lleisiau a'r gorfoledd mawr. O, noson fythgofiadawy a'm tad wrth ei fodd yn canu ar ôl swper,
"Wel, dyma'r cyfaill gorau ga'd,
Mae'n ganmil gwell na mam na thad,
Mewn pob caledi ffyddlon yw..."
Yr wyf yn ysgrifennu drwy'r dydd heddiw am ei bod yn ystorm ofnadwy—y gwynt, y gław, cenllysg a'r môr a'i donnau yn codi'n ofnadwy o uchel.
Ni wn beth i'w ddweud am y llyfr y mae Griffiths yn ei gyhoeddi—ai yn rhifynnau y mae? Nid oeddwn yn meddwl rhyw lawer o'r un a welais i ganddo. Cyn y rhoddwch chwi fy mhethau iddo, gedwch imi wybod ymhellach yn ei gylch.