Tudalen:Atgofion am Dalysarn.djvu/46

Gwirwyd y dudalen hon

Y SEIAT FAWR YN LERPWL

'RWY'N cofio fy chwaer a minnau'n cael mynd i Lerpwl un tro gyda'n tad. Cynhelid cyfarfod neu gynhadledd fawr (sef Seiat Fawr y Methodistiaid) yno y diwrnod hwnnw gan y Methodistiaid, ac yr oedd felly yn amgylchiad pwysig yng ngolwg fy nhad.

Ar y stemar a'n cludai i Lynlleifiad yr oedd hen gydymaith â'm tad-hen ŵr plaen a diymhongar. Wedi inni ddeall pwy ydoedd, nid oedd neb llai na'r hynod William Ellis, Maentwrog; ac yn ei gwmni difyr cyraeddasom ben ein taith heb yn wybod inni.

Disgwyliai dau foneddwr ar y "Pier Head" am i'r stemar ddyfod i mewn, sef Mr. David Roberts, Hope Street, a'n cefnder, William Roberts. Bu cryn ddadl ar y cwestiwn pa le 'r oedd fy nhad i letya y noson honno cydrhwng Mr. David Roberts a'n cefnder, wedi inni adael y llestr. Daliai Mr. David Roberts y dylai fy nhad letya gydag ef, gan mai gydag ef y byddai'n arferol â gwneud bob tro y byddai yn y dref, tra daliai ein cefnder mai yn ei dŷ yr oedd ei le, fel ei ewythr. Ni chymerai fy nhad yr un rhan yn y ddadl, ac wedi iddynt ddweud eu rhan ar bob ochr dywedodd fy nhad, "Wel, pa le bynnag y byddaf fi'n aros, mae'n rhaid imi gael yr hen frawd yma gyda mi," gan gyfeirio at yr hen William Ellis. Fodd bynnag, terfynwyd y ddadl drwy i 'nhad a William Ellis fyned gyda Mr. D. Roberts, a'm chwaer a minnau gyda'n cefnder.