RHOBAT GRUFFYDD Y TROELLWR
YR oedd hen ŵr o'r enw Robert Gruffydd y Troellwr yn byw yn Nhalysarn yn ymyl ein cartref ni. Cymeriad anghyffredin iawn ydoedd. Pan adwaenwn i ef, yr oedd yn ennill ei fywoliaeth drwy gario nwyddau a glo o Gaernarfon mewn waggon ar y rheilffordd. Yr oedd ganddo hen gaseg a alwai Bute. Enw ei wraig oedd Beti Gruffydd. Wel, fe aeth yr hen wraig yn wael iawn, ac i orwedd, ac yr oedd yntau'n hynod o unig heb ei help. Fel arfer, fe âi i Gaernarfon oddeutu deg o'r gloch y bore, ac os byddai rhywun yn dewis, caent eu cario ganddo yn ei waggon. Byddai f'ewyrth, David Jones, Caernarfon, yn defnyddio pob cyfleustra i fyned gyda Robert Gruffydd, ac fe gai ddifyrrwch anghyffredin yn ei gwmni.
Un diwrnod yr oedd Robert Gruffydd yn dyfod adref o'r dref, ac aeth amryw o'r bechgyn i gyfarfod ag ef, a meddent wrtho, "Stopiwch, Robert Gruffydd." "I beth?" ebe yntau. "Stopiwch; y mae Beti Gruffydd wedi marw." "Wyt ti'n deud y gwir?" "Ydym, wir." "Wel, dowch i'r waggon, hogiau. Fel 'na mae hi yn y byd 'ma, rhywun yn marw o hyd. Dos yn dy flaen, Bute bach. Hogia', pryd buo hi farw, deudwch?" Hanner dydd."
Wel, wel; dos yn dy flaen, Bute bach." Ac wedi cyrraedd pen y daith, "Dowch gyda mi, hogia', i roi tamad i Bute." Ac felly bu, ac ar ôl gorffen aeth i'r tŷ.