RHAGAIR
YSGRIFENNWYD yr atgofion a ganlyn gan Mrs. Fanny Jones, Machynlleth, mewn llythyrau ataf a hithau wedi pasio oed yr addewid. Yr hynaf ond un ydoedd o ferched John Jones Talysarn a Fanny ei wraig. Y mae Cofiannau ei thad a'i mam yn adnabyddus, a chyhoeddwyd hefyd Gofiannau i'w brodyr, David Lloyd Jones a Thomas Lloyd Jones, a oedd yn enwog yn eu dydd, y naill fel pregethwr a'r llall fel teithiwr dros wledydd Ewrop. Ond nid ar led byd na lled gwlad y teithiodd meddwl Fanny, ond yn hytrach ar hyd bywyd cartref a chymdogaeth. Dawn disgrifio a oedd ganddi, a hynny'n fwy byw o lawer ar aelwyd ac mewn ymgom nag ar bapur. Ymddiddorai hefyd yn yr anenwogion hynny a elwid gan Edmwnt Prys "Ei weiniaid a'i werinos." Darllenais neithiwr sylw'r Dr. Johnson yn ei ddydd: "Whatever withdraws us from the power of our senses, whatever makes the past, the distant, or the future predominate over the present, advances us in the dignity of thinking beings."
Perygl meddwl ein hoes yw ei fod ledled y ddaear yn fâs ac yn frysiog ei amgyffred, a phrin yw gwybodaeth plant dynion, ie, a phlant y wlad bellach, o'u cartref a'u cymdogaeth. Cyfrinach yr aelwyd yng Nghymru gynt oedd hanes cymeriadau a'u cyfeiriadau mewn bywyd; yr oedd prifio mewn profiad yn ogystal ac mewn corffolaeth. A rhag ein bod yn anystyriol o hanes o'r fath, awgrymog ddigon ydoedd cyffes gwŷr mor enwog â'r Iarll Baldwin, Arglwydd Grey a'r Archesgob Lang, a welodd fywyd ar led byd, iddynt droi at atgofion Wordsworth yn ei hanes hynod o " daith yr anialwch i gyd" a adroddir yn y "Prelude." Yn wir, amcan Wordsworth yn yr "Excursion" ydoedd dar-