Tudalen:Atgofion am Dalysarn.djvu/51

Gwirwyd y dudalen hon

beth oedd ganddo i'w ddweud. "Dweud beth?" ebe yntau.

Wel, yr ydych wedi troseddu'r rheolau drwy briodi dynes o'r byd a heb fod yn aclod eglwysig." "O," ebe yntau. "Ac yn awr," ebe'r blaenor, " y mae'n rhaid gweinyddu cerydd arnoch, neu ichwi edifarhau." "Beth! Edifarhau am briodi Neli... edifarhau am briodi Neli! Na wnaf byth! Ac ni ddeuda' i byth wrthych ei fod yn edifar gennyf." Seiat neu beidio, fe aeth pawb i wenu, ac ni weinyddwyd cerydd arno. "Ac," meddai wrth rywun wrth sôn am yr amgylchiad, " y maen' hw'n deud bod yno, ym mynydd Ebal, ryw gerrig na ddalian' hw' mo'u trin. Well iddyn' hw' adael llonydd imi, yn sicr."

Bu farw yn bedwar ugain oed. Cafodd bob ymgeledd gan Neli, a daeth hithau aelod gydag ef.