Tudalen:Atgofion am Dalysarn.djvu/52

Gwirwyd y dudalen hon

SION GRUFFYDD YR ATAL

YR oedd cymeriad hynod yn byw yn Nhalysarn o'r enw Siôn Gruffydd. Dyn tlawd, cyffredin oedd yr hen ŵr, a chanddo wraig dduwiol odiaeth. Bu iddo bump o blant, pedwar mab ac un ferch. Enwau'r meibion oedd Gruffydd, Siôn, Wil a Huw, ac enw bedyddiedig y ferch ydoedd Catrin.

Gelwid ef yn Siôn Gruffydd yr Atal. Priodolid hyn i'r ffaith bod ei lafariad yn afrwydd, neu fod atal-dweud arno. Trigent mewn bwthyn bychan a elwid y Tŷ Newydd, ac adwaenid Catrin Gruffydd, y wraig, fel Catrin Gruffydd, Tŷ Newydd. Treuliodd y teulu ran helaeth o'u bywyd yn fy hen gartref i. Gan fod yr hen ŵr yn anghelfydd iawn gyda'i waith yn y chwarel, ni allai ennill cyflog byw, a chanddo yntau deulu mawr i'w gynnal, ac felly arferai fy nhad roddi gwaith i'r hen ŵr i edrych ar ôl y ceffyl a'r fuwch a oedd ganddo. Daliai fy nhad ychydig o dir hefyd, a chanfyddai'r gwas ryw

waith neu'i gilydd i'r hen Siôn Gruffydd ddiwrnod ar ôl diwrnod. Fe'u cynhaliai'r bechgyn hwy eu hunain. drwy redeg ar negeseuau i'm mam, a'u porthai'n dda am hynny. Yr oedd y tir gryn bellter oddi wrth ein tŷ, a chofiaf yn dda fyned un tro, gyda'm tad, i edrych sut y deuai Siôn Gruffydd ymlaen yn y cae. Hoffai Siôn Gruffydd fygyn yn fwy na dim, ac os byddai'n amddifad o fyglys, wel, nid oedd hwyl arno, ac ni cheid bw na be o'i ben. Pan fyddai yn y cyflwr anobeithiol yma, ni welai ddim, ac yr oedd