Methem ddyfalu y pryd hwnnw pa fodd yr oedd dwy geiniog Catrin Gruffydd yn fwy na hanner coron fy mam, ond wedi hynny y deellais y dirgelwch.
Cofiaf un tro i Siôn Gruffydd ddyfod i'n tŷ ni i chwilio am damaid o fwyd. Dywedodd fy mam wrtho fod ganddi ryw waith neu'i gilydd iddo i'w wneud; ac yna y caffai ddigon o fwyd. Felly y bu, ac wedi ei ddigoni â bwyd iachus, meddai wrth fy mam: "Oes yna ddim blewyn o faco'r pregethwr yma? 'Rwyf heb flewyn ers oriau bellach." "Diar mi, Siôn Gruffydd," ebe fy mam, dylsech fod yn eitha' bodlon wedi cael eich digonedd o fwyd da, a pheidio â meddwl, heb sôn am ofyn, am faco." "O, na, yn wir, Ffanni Jones," ebe Siôn, " yr ydw' i bron methu gweld ers meitin o eisiau mygyn-ches i ddim heddiw, a 'doedd acw yr un ddimai yn y tŷ, ond dwy geiniog casgliad misol Cadi, sydd yn y jwg ar y cwpwrdd.'
Peth rhyfedd, ynte," ebe fy mam, er mwyn ei dynnu allan," gan fod y fath flys arnoch, na fuasech yn prynu baco â'r pres oedd yn y llestr?"
"O na, yn wir," ebe Siôn, "ni chymerwn y rheini er y byd. Cymerais hwynt unwaith, pan oeddwn bron marw o eisiau mygyn, ac euthum i'r llestr a chymerais y ceiniogau a phrynais faco efo nhw, gan Ann Williams Gorlan Lwyd; ac ni wnaf eu cymryd eto pe bawn farw."