"Wel, 'roedd Catrin Gruffydd yn siwr o fod yn dwrdio'n arw pan welodd golli'r arian, Siôn Gruffydd," ebe mam.
"Wel," meddai Siôn, "dywedaf yr hanes wrthych. Nid anghofiaf yr amgylchiad byth. Gwelwn hi yn iro ei chlocsiau, ac yn ymolchi ei hwyneb a'i dwylo ac yn paratoi i fynd i'r Seiat. Crynwn gan ofn iddi fynd i'r jwg, ond ni ddywedais air o'm pen. Dyma hi yn rhoddi ei het am ei phen a'r hen fantell amdani. Yna goleuodd y lantar, ac yna trodd at y cwpwrdd, a gafaelodd yn y jwg. Rhoddodd ei llaw i mewn, ac er ei braw nid oeddynt yno. Dododd
y llestr yn ei ôl a rhoddodd y lantar ar y bwrdd, ac eisteddodd ar yr hen stôl bach, ac wedi peth distawrwydd dywedodd mewn llais toredig: "O! Iesu annwyl, mae dy arian Di wedi mynd! O! beth a wnaf? Yn awr, nid oes ddimai yn fy meddiant i'w rhoddi i Ti, Iesu mawr. Gwyddost, annwyl Iesu, fy mod wedi eu cadw i Ti. Beth a wnaf, Waredwr annwyl? 'Does gen' i mo'r help. Ti wyddostgwyddost Ti y cwbl.".
O," ebe'r hen ŵr, "aeth yn rhy boeth imi aros yno, ac edrych arni'n wylo. Buasai'n well gennyf fyw heb fygyn byth na chymryd arian casgliad Cadi eto, basa'n wir, coeliwch fi. 'Roedd yr arian hynny wedi eu cadw i Iesu Grist ganddi. Pan gai dipyn o geiniogau, i'r jwg y byddai'r rhai cyntaf yn mynd yn ddieithriad."
"Wel," ebe fy mam, "mae wedi mynd i fyw ato Ef erbyn hyn, Siôn Gruffydd."