Tudalen:Atgofion am Dalysarn.djvu/61

Gwirwyd y dudalen hon

LLYTHYR AT EI NAI (G. M. LL. DAVIES)

ANNWYL GEORGE,

Pwllheli.
20 Awst, 1903.

Heb air o ragymadrodd wele fi yn anfon fy hanes i chwi: rhyw grynhodeb o'm hymweliad â Dolwyddelan.

Cyrhaeddais yno ddydd Iau, y trydydd ar ddeg o Awst. Wedi mwynhau cwpanaid o de yn y Las Ynys, euthum allan i gyfeiriad yr hen chwarel ac ar hyd ei llwybrau, lle y cefais olwg ardderchog o Foel Siabod ac o ben pinacl yr Wyddfa. Hefyd gwelais yr hen lwybr y cerddasai Nanws ar hyd-ddo i fyned a dyfod i'r hen gapel. Ymddolennai'r afon i lawr y dyffryn ac ymddolennai'r llwybr gyda'r glannau. Tybiwn weled fy ewythr, David Jones, yn dilyn ei chamau ar hyd-ddo, a Nanws yn gweddio'n daer ar ei Thad nefol, ac yntau'n gofyn iddi (yn gweiddi am fod sŵn уг afon yn boddi eu lleisiau): "Am ba beth yr ydych yn gweddïo mor daer, Modryb Nanws?'

O, Dafydd bach, gofyn yr oeddwn i i'r Arglwydd gymryd gofal o'm hen gorff i; chreodd Efe 'rioed yr un hyllach, ond hen gorff Nanws fydd o, Dafydd bach."

Yna fe aeth fy meddwl i'w dilyn i'w bwthyn bach tlawd yn y Cae Du. Yno digwyddodd pethau rhyfedd, fel y dywed ei hanes, ond fe ddywedwyd wrthyf mai yn y tŷ nesaf y bu hi farw, ac iddi, ychydig cyn ymadael, ofyn am ychydig ddwfr i'w