hyd-ddo flynyddoedd yn ôl. Daethom hyd at Glwt y Dawns ar y llaw chwith inni. Yr oedd talp anferth o graig, tua chwe llath o'r ffordd, â'i hwyneb yn wastad. Yno yr eisteddai'r feistres tra fyddai'r morynion yn godro yn y cae bychan gerllaw, lle y gwelir sydd wedi ei amgylchu â gwal isel. Yno deuent â'r cunogau ar eu pennau yn cynnwys y llaeth, a dodent hwy i lawr mewn lle cyfleus, ac yna dechreuai eu meistres ganu'r delyn a dechreuent hwythau ddawnsio bob dydd ar eu ffordd adref o'r fuches.
Aethom ymlaen nes dyfod at hen Blas Angharad James.[1] Yr wyf yn cofio darnau helaeth ohono, pan euthum yno flynyddoedd yn ôl, ond heddiw wedi diflannu, ag eithrio ôl yr hen simdde fawr. Yn y tŷ sydd agosaf ato y bu cyfnither imi'n byw. Cefais de ganddi. Y mae wedi myned i America ers blynyddoedd.
Dydd Sadwrn disgynnai'r glaw fel pe buasai cwmwl wedi torri, a chan ein bod ar derfyn dwy afon, fe chwyddai'r dwfr ynddynt yn ofnadwy. Llanwai nid yn unig wely'r afon ond y caeau a'r dolydd fel môr. O! yr oedd rhyw fawredd ofnadwy yn yr olwg arnynt.
Y dydd Saboth gwyddoch ein hanes.
Y dydd Llun aethom i Berth Eos[2]—gyda'r trên i