Tudalen:Atgofion am Dalysarn.djvu/64

Gwirwyd y dudalen hon

Roman Bridge, gyda'r afon, a ymdroellai ôl a blaen ar hyd ein ffordd. Daethom i'r Berth Eos. Tŷ newydd sydd yno'n awr; ni adawyd ond yr hen simdde o'r aneddle y magwyd y pum merch harddaf yn y plwyf. Y mae yno y lle mwyaf anghyfannedd a welais erioed, ac i ychwanegu at hynny y mae'r hen adfeilion adeiladau blith-draflith yno: hen ysguboriau, hen dai annedd, hen feudái, hen gytiau moch; ie, y fath aflerwch yn ymyl y tŷ hardd, lle y preswylia yn awr Ellis Williams a'i chwaer.

Daethom adref heibio i'r hen Dan y Castell, ac mor ddigalon oeddym wrth edrych ar yr olwg adfeiliedig, fel yr oeddym am fyned heibio ar hyd y ffordd heb fyned ato, ond fel y nesaem, gwelem ŵr dieithr a'i wraig yn sefyll yn agos i'r gof-golofn ac yn ysgrifennu'r argraff a oedd arni yn ei lyfr.

"Wel," meddwn wrtho, "yr ydych wedi dod yma, y mae'n debyg, i'r un neges â minnau, sef i weled hen gartref John Jones, Talysarn." Wedi peth ymddiddan fe ddywedodd ei fod yn adnabyddus â'm tad. Yr oedd am ysgrifennu'r hanes i'r Faner—y Faner Fawr ydyw. Fe ddymunwn ei chael, os gallwn, ddydd Sadwrn: y mae'n olygydd iddi. Yr oedd ei barch at fy nhad yn ddiderfyn.

Yna aethom i'r Las Ynys i gael te, ac aethom i weled hen wraig dlawd yn byw ar y llwybr sy'n myned i Gapel Curig, heibio i'r Singrig, tai bychain, llwydaidd ddigon. Cwynai rhyw wraig wrthym fod rhywbeth ar y tatws eleni. Poor thing! Dyna ei "stâd" hi—yr ardd.