Gwirwyd y dudalen hon
fy nhaid yn fyw, yr oedd y teulu'n byw yn yr holl dŷ. Hen blasty ydoedd, ond pan briododd y merched a marw fy nhaid fe'i rhannwyd yn dri thŷ.
Fe anwyd tri o blant i'r hen wraig, a'm nain oedd y doctor, ac yn ddoctor i'r holl wlad y pryd hwnnw. Dywedai am fam Cadwaladr Owen, a oedd yn byw yn Nhalaldrach, ei bod yn myned i le bach yn agos
i'r afon-hen gwt bach-ac yn cymryd bara gyda hi ac ychydig ddwfr, ac yna yn cymryd yr ordinhad i gofio am farwolaeth y Gwaredwr. Ni allai fyned i'r capel gan henaint.
Gwelais y Garnedd, y Coetmor a'r Gorddiner wrth ddyfod o Ddolwyddelan yn y trên cyn entro'r twnel. Cwm tebyg i Ben Amnen ydyw, yn cau pob thoroughfare i fyny. O! mor berffaith dlws a rhamantus ydyw.