Y mae yntau bellach wedi ymuno â'r "anweledig gôr," ond mor felus yw adlais ei delyn yn ngherdd ein gwlad!
"Ti nid wyt, fy Chwaer," yw teitl un o ganeuon ei gyfrol olaf: ac y mae tlysni ysbrydol y gân yn arwain y meddwl yn agos iawn i'r llèn sydd dros ddisgleirdeb y byd anfarwol. Darlunia yr enethig hoff wedi rhodio rhyw ddiwrnod ar làn yr Afon Ddistaw, pan ddaeth "cwch ysblenydd" yn rhy agos ati.
Hwyliau sidan gwyn oedd ganddo,
Gynau gwynion wisgai r criw;
'Roedd dyeithriaid arno'n rhwyfo,
Ac angylion wrth y llyw.
Cymerasant yn ddystaw ar y bwrdd yr hon oedd wedi cerdded yn rhy agos i'r làn; ac yn y goleuni y diflanodd y cwmni disglaer. Pa le yr oedd hi ni wyddai y bardd; ond os oedd rhywun yn y nefoedd yn son mwy am Iesu na'r llall dyna lle y ceid hi! Awel yr Afon sydd yn murmur trwy y gân—ac eto, nid yr afon ddu, dymhestlog, ag sydd mor fynych yn ngolwg yr emynydd Cymreig; ond afon yn llifo yn araf, ddigynhwrf; a'r blodeu gwelw ar y làn yn cusanu'r tònau; a phren y bywyd yn taflu ei gysgod dihalog dros ei dyfroedd rhyfedd.