Pennod 18.
Y MAE yn rhy gynar i geisio olrhain dylanwad Ceiriog ar lenyddiaeth ei wlad ac ar ddiwylliant ei genedl. Ac eto nid teg ei adael heb ychydig nodiadau.
Naturioldeb yw nodwedd amlycaf ei waith: ac y mae naturioldeb yn ddylanwad nad yw byth allan o'i dymhor yn llenyddiaeth unrhyw wlad.
Y mae hyn yn wir mewn ystyr neillduol am farddoniaeth Gymreig. Tuedd barhaus y gynghanedd yw meithrin ieithwedd addurniadol a meddyliaeth gymysglyd. Y mae eisiau rhyw allu fel Ceiriog yn dystiolaeth fyw i ddangos mor swynol yw'r syml. Nid yw yn hawdd bod yn syml; ond cymerodd Ceiriog boen i fod yn ddirodres ac yn ddillyn. Wrth fod yn syml nid aeth yn benrhydd. Y mae yn werth i'r cynghaneddwr ei efrydu er mwyn dysgu cyfrinach meddyliaeth glir: y mae yn werth i'r hwn sydd well ganddo'r mesur rhydd ei efrydu er mwyn dysgu perseinedd, a hoenusrwydd, a chelfyddgarwch.
Gwnaeth Ceiriog wasanaeth annhraethol i'w oes wrth ei harwain i gymdeithas agosach â Chymru Fu. I'r werin a'r miloedd rhaid i gasgliad hynafol Myfyr fod byth yn drysor cudd: ond yn nghwmni geiriau Ceiriog y mae hen alawon ein gwlad yn dwyn yn ol i ni deimlad cenedlaethol oesau gynt. "Ni bu marw un." Pa le mae telynor y Gododin? neu gymmrodoriaeth ddiwyd Gruffydd ab Cynan? neu ddiwygwyr pybyr Eisteddfod Caerwys? Y mae yr ysbryd a siglodd eu henaid i'w cerdd yn anfarwol; a phwy ŵyr nad oes rhai o'u seiniau hwy ar led gwlad heddyw yn nghaneuon ein bardd? Y mae eu hysbrydoliaeth yn aros, mor brydferth ag