Tudalen:Athrylith Ceiriog.djvu/108

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

erioed; y mae yn corphori ei hun mewn ffurfiau newyddion yn barhaus. Y mae yn newid, ond yr un ydyw; y mae yn llenwi meddyliau lawer, ond y mae unoliaeth gyfrin yn dwyn yr oll i un dyben, i un gwaith.

Braint y bardd yw breuddwydio yr oes ar ei ol Os cododd Ceiriog y llèn lwydoer oddiar Gymru Fu, safodd hefyd yn y ffenestr ddeheuol i weled gobeithion Cymru Fydd. Pa faint o'r cyffroad presenol sydd wedi ei raglewyrchu yn ei farddoniaeth ef? Pan ganodd ef ei gynghor dedwydd—"Siaradwch y ddwy "—oni ragflaenodd y symudiad sydd ar droed i wneud plant Cymru yn Saeson heb iddynt beidio bod yn Gymry? Y mae pob diwygiad yn farddoniaeth cyn bod yn ffaith. Y mae Heddyw yn troi breuddwydion gloywon Ddoe yn weithredoedd byw. Onid ydyw felly gyda chaneuon gwladgarol Ceiriog? Os mai ar dònau ei freuddwydion ei hun y nofiai ei lestr ar ddechreu ei oes lenyddol, cyn cyrhaedd ei diwedd yr oedd yn nofio ar donau y llanw gwladgarol sydd yn cryfhau yn Nghymru bob dydd. Yn ei gyfrol olaf y canodd fel hyn:—

Os ydwyt gan henaint â'th goryn yn wyn,
Mae'th wlad eto'n ifanc a'i braich yn cryfhau:
Os croni'n y bryniau bu dyfroedd ei dawn,
Mae foru yn d'wedyd—"Gwneir pobpeth yn iawn!

Ac yn ei gân olaf y dywedodd fod—

Arthur arall yn ei gryd,
Wrth fyned ar i lawr.

Y mae Cymru'n holi—Beth ddaw o'r Arthur hwn?