Tudalen:Athrylith Ceiriog.djvu/12

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

anorphen. Y mae hanesiaeth yn dwyn ei thystiolaeth ddiamwys fod yr urdd farddol yn cael ei chydnabod a'i hanrhydeddu yn nghyfundrefn offeiriadol y Derwyddon. Os oedd beirdd Cymreig yn amser Cæsar, pa le mae eu barddoniaeth? Os bu telyn y bardd yn tanio eneidiau dewraf Frythoniaid ar gâd-faesydd yr oesau—amser hir cyn i'r Normaniaid adael cad-faes Senlac yn orchfygwyr—pa beth ddaeth o'u rhyfelgan? Y mae gofyniadau o'r fath, fel llewyrch mellten ar for ystormus, yn lled-awgrymu faint yw llenyddiaeth golledig y Cymry. Adroddwyr, ac nid ysgrifenwyr, oedd ein beirdd boreuol; ac y mae cynyrch eu hawen wedi diflanu fel cân ehedydd ar foreu Mehefin gan' mlynedd yn ol.

Y mae yr hen alawon Cymreig wedi colli y geiriau a roddodd enw iddynt ar y cyntaf. Mor ddifyr—ac mor ofer—yw ceisio dy falu beth allasai fod y geiriau gwreiddiol i "Ymdrech Gwyr Harlech." neu "Serch Hudol," neu "Blygiad y Bedol Fach?" Pa fardd a chwareuodd ei delyn o dan ganghau "Llwyn Onn," neu yn ngoleuni hudolus "Toriad y Dydd?" ac yn mha gymanfa Dderwyddol y clywyd gyntaf nodau nwyfus "Hob y deri dando?" Nid yw hyn eto ond profi mor ychydig a wyddom am lenyddiaeth golledig y Cymry.

Ar lafar gwlad ceir heddyw aml i benill di-berchen, na ŵyr neb ei oedran na'i haniad. Cyfeiria Ceiriog at un ohonynt yn Y Bardd a'r Cerddor, yn ei ddull nodweddiadol ei hun: "Dyma ddarn o hen bill y byddaf yn dotio wrth ben ei ysgafnder soniarus—

Mae genyf ebol me'yn
Yn myn'd yn bedair oed,
A phedair pedol arian
O dan ei bedwar troed."