Pennod 2.
DEFNYDDIR y gair Cân—Caneuon fynychaf mewn ystyr gyffredinol, i ddynodi darn o farddoniaeth. o unrhyw fath. Ond yn y traethawd presenol cyfyngir y gair i'w ystyr gysefin, i ddynodi dosran arbenig o farddoniaeth delynegol. Y mae y gair Seisnig "Song" yr un mor ddiafael: dyna'r rheswm fod llenorion Seisnig yn defnyddio gair o'r Ffrancaeg —"Chanson"—pan y maent yn son am ddarn o farddoniaeth wedi ei gyfaddasu at ddybenion cerddorol.
Y Gân yn ddiau yw cyntafanedig yr awen. Un o'r efelychiadau symlaf o beroriaeth natur ydyw,—heb falchder ymadrodd, heb uchelgais gelfyddydol, heb blethiad dyrys meddylddrychau. Y mae yn ysgafndroed a dihoced; fel murmur y gornant ar boreu o wanwyn—fel awel yr haf rhwng dail y dderwen—fel y wenol yn cadw ei "gwisg yn lân a chryno," er mor wisgi ac esgeulus fyddo'i ehediad. Cyneddf benodol y Gân ydyw ei bod yn fyw gan yni cerddorol, pa mor ddiofal bynag yr ydys wedi ei chynllunio y mae sain ei phenillion yn tueddu yn barhaus i droi yn ganu fel aderyn wrth redeg yn gyflym yn troi yn ddiarwybod braidd i hed fan. Y mae Caneuon ar unwaith, os yn Ganeuon dilys, yn hawlio perthynas à cherddoriaeth; ac os nad oes alawon yn barod iddynt, dilynant y meddwl i bobman, "gan guro amser i ddim" yn y dychymyg.[1]
Y mae Ceiriog wedi ysgrifenu yn fanwl a threfnus ar gyneddfau a swyddogaeth y Gân yn y Bardd a'r Cerddor: a phrin y mae eisiau ychwanegu dim at ei nodiadau. Ymddengys i mi fod ei awgrymiadau
- ↑ Victorian Poets, E. C. Stedman, 101.