Tudalen:Athrylith Ceiriog.djvu/16

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

drysor annghofiedig; a chwedloniaeth hudolus y Mabinogion mor anhysbys bron a gorphwysfan Arthur Fawr yn ogof Craig-y-Dinas. Ond wedi y deffroad, daeth llenorion ein gwlad i edmygu gwaith y Cynfeirdd a'r Gogynfeirdd; a thryw hyny i gymdeithasu â symlrwydd a morwyndod Anian. Pa ddychymyg diwylliedig all gerdded cadfaes y Gododin yn nghwmni Aneurin, heb ddyfod i hoffi ieithwedd loyw, ddiaddurn y bardd? Pwy all wrando gyda Gwalchmai ar "fawr lafar adar" "chathl foddawg coed" neu wylio

Gwylain yn gware ar wely lliant,
Lleithrion eu pluawr,

—heb ddysgu bod yn gariadus at hyfrydedd a pheroriaeth Anian? Ac yn fyw byth, pwy all rodio meusydd gwanwynol y Mabinogion, neu ddilyn. darfelydd ramantus Dafydd ab Gwilym, heb i'w enaid ymgolli yn swyngyfaredd Anian? Diau mai ein llenyddiaeth foreuol fu un o'r dylanwadau mwyaf grymus i ysbrydoli barddoniaeth delynegol y ganrif bresenol.

Pan ysgrifenodd Lewis Morris ei gân i" Forwynion glân Meirionydd," dechreuodd gyfnod newydd o Ganeuon Cenedlaethol. Ychydig o ddim ond seiniau sychlyd a geir yn ngharolau Dafydd Jones, o Drefriw, a'r frawdoliaeth ddi-awen hono. Y mae y casgliad a gyhoeddwyd dan yr enw coeg-falch, Blodeugerdd Cymru, yn gofadail anfarwol i athrylith crachfeirdd. Gellid tybied mai gwaith yr oes oedd hela cydseiniaid, er mwyn gwneud llinellau doniol fel hyn—

Y liwgar olygus, gais seren gysurur,
Lon heini lân hoenus, a dawnus ar dw'.

Onid ydyw yn seingar?—ac yn feddal?