Y mae yr un trachwant am swn cynghaneddol yn blino Huw Morus a Twm o'r Nant—y maent yn foddlon i aberthu natur a synwyr ond iddynt gael y dinc ogoneddus. Yn hyn y mae Lewis Morris yn dangos dylanwad y cyfnod newydd. Nid yw yn gwrthod ychydig gynghanedd, "os daw yr ychydig hwnw yn rhwydd a didrafferth." Ond yn ei ganu ef, yr ymgais gyntaf yw bod yn naturiol. Yr oedd ei gydnabyddiaeth â llenyddiaeth henafol ein cenedl wedi ei ddysgu i hoffi y syml, y nwyfns, a'r cryf.
Tra yr oedd Lewis Morris yn y Gogledd yn arwain y gwrthgiliad llenyddol o dir sychlyd y segurwyr cynghaneddol, yr oedd symudiad gyfochrog yn myned yn mlaen yn y Deheudir. Ni allasai caneuon tyner Wil Hopcyn, a bugeilgerddi Edward Richards—gyda'i "chediadau ysgafn a mirain, mor hoyw ag awel y rhosdir "—ni allasent lai nag enyn hoffder newydd at symlrwydd Anian. A phwy all fesur dylanwad yr Emynydd o Bantycelyn yn y cyfeiriad hwn? Siaradai ei emynau aith y werin, a chyrhaeddant galon y werin fel gwlith y nos yn disgyn ar y blodeu.
Fel hyn yr oedd cydgasgliad o ddylanwadau, yn enwedig tua diwedd y ganrif, yn arwain yr awen Gymreig i ddysgu canu ei thelyneg ar fin y nant fynyddig, dan gysgod murmurol y goedwig, ac ar ben y bryniau llonydd.
Ond heblaw y dylanwadau brodorol fuont yn addfedu y gyneddf delynegol yn ein gwlad, rhaid hefyd nodi y dylanwadau tramor—yn enwedig o ddwy ffynonell: Robert Burns yn yr Alban, a Béranger yn Ffrainc. Ganwyd y blaenaf ar lanau'r Doon, yn 1759; a'r olaf yn Paris yn 1780. "Yr oedd y ddau," medd Dr. Charles Mackay,[1] "yn
- ↑ The Nineteenth Century, vii., 484: "Burns and Béranger."