Tudalen:Athrylith Ceiriog.djvu/18

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fawr ac yn boblogaidd; a dylanwadodd y ddau yn ddwfn ar feddyliau cu cydwladwyr. * * * Yr oedd y ddau yn wladgarwyr, ac ysbrydolwyd hwynt gan adgof am wrhydri eu gwlad yn y gorphenol. Bron na ellir dweyd fod gorsedd ymherodrol Ffrainc yn gorphwys ar ysgwyddau Béranger, y fath oedd poblogrwydd ei ganeuon yn mhlith y werin a'r miloedd. Er mwyn boddloni y teimlad cenedlaethol pan fu farw, gorfu i'r "unben mwyaf mawreddog a lywiodd Ffrainc erioed" drefnu gos—gordd o gan' mil o wyr arfog i ddilyn ei arch. Nid cedd y bardd wedi codi byddin, nac wedi tynu cledd—dim ond wedi canu!

Am Burns—afraid yw siarad. Caiff Carlyle ei fesur yn ei iaith rymus, dymhestlog: "Pa le bynag y siaredir tafodiaith Seisnig, dechreuir deall, trwy arolygiaeth bersonol hwn a'r llall, mai un o'r Sacsoniaid mwyaf ystyrgar yn y ddeunawfed ganrif oedd gwladwr yn swydd Ayr o'r enw Robert Burns. * * * Darn o graig Harz, a'i syflaen yn nyfnderau y byd;—craig, ond fod ynddi ffynonau o diriondeb byw! Yr oedd rhuthrwynt gwyllt o nwyd a gallu yn cysgu yn dawel yno; a'r fath beroriaeth nefolaidd yn ei chalon. Diffuantrwydd garw pendefigaidd; cartrefol, gwladaidd, gonest; symledd didwyll cryfder; gyda'i fellt—dân, gyda'i dosturi gwlithog-dyner!"[1]

Bu ei awen yn ddeffroad cenedlaethol i'r Alban: ymdaenodd y dòn frwd i Loegr, i Ffrainc, ac i'r Almaen, heb annghofio "Cymru fechan, dlawd."

Wrth ddweyd fod Burns a Béranger wedi dylanwadu ar feirdd a barddoniaeth Gymreig, camsynied fyddai tybied mai yr hyn a feddylir yw fod ein beirdd wedi darllen eu cynyrchion. Y dylanwad a olygir yma yn benodol yw y brwdfrydedd cyfrin sydd yn

  1. Heroes and Hero-Worship, chap. v. 175.