Tudalen:Athrylith Ceiriog.djvu/19

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cael ei drosglwyddo yn y byd llenyddol—mor dawel, mor guddiedig, mor ysbrydol ag adfywiad y gwanwyn. Ni chlywir llaw yn gweithio, na throed yn cerdded, nac aden yn ysgwyd yn y dolydd ac ar y llechwedd: ond yn ddwyfol ddistaw daw meillion Mai yn lle oerni Chwefror. Y mae pob bardd mawr, newydd, yn creu yni o'r fath: cerdda ei ysbryd yn mhellach na'i waith.

Ond yn y pwnc dan sylw, bu Béranger, ac yn enwedig Burns, yn adnabyddus i'n Beirdd yn uniongyrchol trwy eu gweithiau. Dywed Llyfrbryf fod Talhaiarn yn hollol gydnabyddus â chaneuon Béranger. Ac yn "Nyddiaduron Eben Fardd," o dan Tachwedd 28, 1858, ceir y cofnodiad canlynol:

ANFON barddoniaeth Ffrengig Béranger i fy anwyl James (sef i'w fab).[1]

Dengys hyn oll fod darllen ar Béranger wedi bod unwaith yn Nghymru.

Yr ydym yn awr mewn safle i dynu ein casgliadau fod y gyneddf a'r awydd i ysgrifenu caneuon Cymreig wedi eu hysbrydoli gan gydnab—yddiaeth â llenyddiaeth hynafol ein gwlad, a thrwy hyny â symledd Anian; ac fod y symudiad hwn wedi ei adgyfnerthu gan ddylanwadau tramor i ryw raddau. Un o blant, ac hefyd un o arweinwyr, y symudiad hwn oedd Ceiriog. Y mae hwn yn wirionedd ac yn egwyddor gyffredinol—fod plentyn athrylithgar pob symudiad mawr yn dyfod yn y diwedd i reoli y symudiad.

Ychydig o fudd sydd mewn prisiadau llenyddol. Y mae dweyd fod un athrylith yn fwy nag athrylith

  1. Gwel Y Traethodydd, am Ion. 1888, 58. Pan ystyriom grefyddolder Eben Fardd ac anweddaidd-dra difloesgni llawer o ganeuon Béranger, yr oedd hon yn rodd anmwys.