Tudalen:Athrylith Ceiriog.djvu/21

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhys, a Williams, Pantycelyn;[1] ac awdwr "O fryniau Caersalem ceir gweled" mewn cymydogaeth gyfagos, Beth sydd yn y dyffryn tlws-dawel hwnw ymgeleddu awen y Salmydd? ac ai dychymyg rhy nwyfus sydd yn sibrwd fod golygfeydd Dyffryn Tywy yn meddu llawer o debygolrwydd i ddyffryn Bethlehem a'r bryniau o'i amgylch, lle y dysgodd "peraidd ganiedydd Israel" edrych ar y nefoedd i ganmol gwaith bysedd yr Iôr? Nid myntumio, ond awgrymu, wnawn yn hyn o beth.

Y mae arbenigrwydd dylanwadau natur ar feddwl y bardd yn un o gyfrinachau y byd ysprydol. Gallwn ddyfalu ac awgrymu, ond nis gallwn roddi dadganiad sicr. Beth sydd yn nyfroedd yr Avon, neu yn nyffryn Tywy, nis gwyddom: ond dyna'r ffeithiau. Y mae yr un dirgelwch anianyddol yn ein cyfarfod wrth olrhain y dylanwadau fuont yn darparu awen Ceiriog i ganu caneuon ei wlad. Yn y dyffryn lle y ganwyd Huw Morus yn 1622, y ganwyd ac y magwyd Ceiriog ddwy ganrif yn ddiweddarach. Y mae Llyfrbryf a Llew Llwyfo yn manylu ar olygfeydd ardal ei enedigaeth. Dywed yr olaf "mai ychydig gymoedd sydd yn Nghymru lle y gall y llygad mewn can lleied o gylch, gael trem ar gymaint o amrywiaeth ffurfiau mewn golygfeydd, o'r gwyllt i'r prydferth, o'r mawreddog i'r swynol, o'r ' echrys ac uchrol ochrau ysgythrawg' i'r 'parthoedd ardaloedd deiliawg"[2] Tueddir un i ddywedyd fod y cwm bychan rhamantus, o dan gysgod y Berwyn, yn ddelweddiad prydferth o awen y ddau fardd. Nid arwrol yw awen Huw Morus na Cheiriog: nid oes ganddi olygfeydd llydain i'w dadlenu, nac uchelderau bythwynion yn

  1. Yn yr un ardal yr ysgrifenodd Ficer Pritchard "Canwyll y Cymry"; ac y mae llawer o'i benillion bron bod yn emynau.
  2. Y Geninen, v 149.