a barddoniaeth Ucheldiroedd yr Alban, geilw y diweddar Brifathraw Shairp sylw fwy nag unwaith at hyn. Wrth son am Donacha Ban neu Oran—a elwir yn aml yn Burns yr Ucheldiroedd a'i gân adnabyddus i "Ben Doran," dywed y Prifathraw—"Y mae y bardd gyda'r manylder mwyaf cariadus, yn sylwi ar nodweddion amrywiol ac agweddau byth-newidiol y mynydd, yr hwn a gerid ganddo fel pe byddai yn greadur byw ac yn gyfaill."[1]. Daw yr un teimlad ardalgar i'r golwg yn un o'r caneuon hynaf yn nhafodiaith y Gael—y gân ar alar Deirdre.[2] Gorfodid Deirdre trwy drais i adael gwlad ei serch: ac y mae y gân wedi ei gosod yn ei genau i draethu gofid ei chalon wrth gefnu ar un glyn ar ol y llall—Glyn Massan, gyda'i "lysiau uchel a'i ganghenau teg"—Glyn Etive, "lle codwyd fy nghartief boreuol: hardd yw ei goed pan gyfyd yr haul "—Glyn Urchay—Glendaruadh, "mwyn yw llais y gog ar y ganghen grymedig "—a Draighen: "anwyl yw Draighen a'i draeth soniarus, anwyl yw llif ei ddyfroedd dros y tywod gloyw"
Eto, i groesi am enyd i diriogaeth Geltig arall, wrth sylwi ar ganeuon un o chanseurs poblogaidd Ffrainc oedd wedi ei eni yn Llydaw, dywed cyfieithydd hyddysg mai y teimlad amlycaf sydd yn rhedeg trwy ei ganeuon yw yr hiraeth a deimlir gan wladwr, wedi dyfod i fyw i'r dref, am fwynderau ei gartref genedigol; ac mai y cartref hwnw bron yn ddyeithriad ydyw Llydaw."
Y Celt yn Ucheldiroedd yr Alban—y Celt yn Llydaw—y Celt yn Ngwalia: yr un ydynt i garu. golygfeydd mebyd, i edmygu Anian yn ei phrydferthwch lleol. Donacha Ban wrth droed Ben